Taith Ryngweithiol - Dilynwch eich taith i fyny'r mynydd ar eich ffôn neu dabled!
SUT I LAWRLWYTHO’R AP
Chwiliwch am ‘Rheilffordd yr Wyddfa’ yn yr App Store neu ar Google Play a gosodwch ar eich dyfais. Yna pwyswch ar ‘Taith Ryngweithiol’ a sganiwch y cod QR i gychwyn y daith.
Gorsaf Llanberis
Mae croeso cynnes Cymreig yn eich disgwyl ar Reilffordd yr Wyddfa gyda’r amrywiaeth o gyfleusterau yn fodd i chi gael diwrnod llawn hwyl. Mae’r blaen-gwrt eang, blodeuog, yn lleoliad perffaith ar gyfer cyfarfod ac ymlacio – a mwynhau gwylio a gwrando ar y peiriannau stêm ym mherfeddion Eryri.
Siop Anrhegion
Mae’r siop yn gwerthu cynnyrch Cymreig yn cynnwys cwrw a gwirodydd lleol, yn ogystal â chofroddion Rheilffordd Eryri unigryw, dillad a thlysau Celtaidd.
Lluniaeth
Mae digon o ddewis o luniaeth ar gael o Fwffe trwyddedig yr Orsaf, Grilfa’r Platfform a Chaffi’r Copa.
Rhoddion a Chofroddion
Rydym ni’n cynnig profiad siopa Fictoraidd anhygoel ac yn gwerthu cofroddion Cymreig o bob math ar gyfer y teulu i gyd. Rydym ni wedi datblygu ein hystod unigryw ein hunain o roddion ar thema’r rheilffordd, ac yn ychwanegol at hyn, yn darparu hefyd ar gyfer y mwy egnïol yn eich plith. Yn wir, mae gennym ni grysau-t y Tri Chopa er mwyn dathlu’r gamp unigryw honno ynghyd â llawer iawn o gofroddion eraill sydd wedi eu hysbrydoli gan natur unigryw’r dirwedd fynyddig. Mae yna gynnyrch nad oes modd eu cael ond ar y rheilffordd ynghyd â bwyd a diod Cymreig, teganau plant, anrhegion, gemwaith a chrochenwaith o bob math. Rydych chi’n siwr o ddod o hyd i rywbeth sy’n mynd â’ch bryd ac a fydd hefyd yn atgof i’w thrysori am flynyddoedd i ddod o’ch taith ar yr unig reilffordd rac a phiniwn ym Mhrydain.
Llyfryn Cofroddion
Cyhoeddwyd Llyfryn Cofroddion Rheilffordd yr Wyddfa yn 2014. Gyda 36 o dudalennau llawn lluniau na welwyd erioed o’r blaen, mae’r ychwanegiad hanfodol hwn i’ch diwrnod gyda ni ar Reilffordd yr Wyddfa yn cyflwyno’r cefndir ac yn rhoi mewnwelediad i hanes y rheilffordd a’i lleoliad unigryw ar fynydd uchaf Cymru a Lloegr. Beth am brynu copi wrth i chi archebu tocynnau ymlaen llaw? Bydd yn barod i chi ei dderbyn pan fyddwch yn cyrraedd Llanberis.
Sut Mae Dod o Hyd i Ni
Mae’r Rheilffordd yn cychwyn o Orsaf Llanberis ar yr A4086. Amcangyfrif yr amser i’n cyrraedd o:
Lleoliad | Pellter |
Caernarfon | 20 munudau |
Cyffordd yr A55 i Fangor | 25 munudau |
Bangor | 30 munudau |
Betws-y-coed | 40 munudau |
Porthmadog | 45 munudau |
Caer | 90 munudau |
Taliadau Parcio
Mae maes parcio talu ac arddangos y tu ôl i’r orsaf. Mae’r tariffau parcio fel y canlynol:
Hyd at 30 munud – AM DDIM (dim angen tocyn) |
4 awr ychwanegol – £4 |
8 awr ychwanegol – £8 |
24 awr ychwanegol – £12 |
Mae tariffau parcio yn berthnasol 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Mae tariffau’n yn berthnasol i unigolion Bathodynnau Glas.
Mae dau beiriant talu wedi’u lleoli yn y maes parcio sy’n derbyn arian yn unig.
Gallwch brynu amser ychwanegol (os oes angen) yn y peiriannau talu neu dros y ffôn cyn gadael y maes parcio.