Y daith i 1085 Metr

Canolfan ymwelwyr uchaf Prydain

Y daith i 1085 Metr O’r eiliad rydych chi’n gadael yr orsaf bydd eich trên yn cychwyn ar y daith i fyny i’r cymylau, taith y mae tua 12 miliwn o deithwyr anturus wedi bod arni ers 1896. Mae hwn yn dir rhyfeddol o dylwyth teg a chewri a brenhinoedd. Am ganrifoedd bu tywysogion Cymru yn teyrnasu yma. Mae’n dir sydd â chyfoeth o flodau alpaidd a rhedyn prin a adawyd ar ôl gan oes yr ia, ac mae murddunnod brith yn croniclo hanes hen gymunedau coll. Roedd y mynyddoedd hynafol yma, a hyrddiwyd i’r awyr gan rymoedd folcanig 450 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn cyrraedd 10,000 o fetrau ar un adeg. Mae oesoedd o wynt a glaw a sawl oes yr iâ wedi eu cerflunio i’w ffurf bresennol.  

Y Daith

Llanberis Hebron Gorsaf Ceunant Mawr Hanner Ffordd Llechog Clogwyn Copa’r Wyddfa

Y Daith

Yn fuan ar ôl i’ch trên adael gorsaf Llanberis mae’r cledrau yn croesi’r cyntaf o ddwy draphont ar draws Afon Hwch a cheir golygfa fendigedig o raeadr yn plymio i’r dyfnder islaw. Wrth i’r trên gyrraedd tir agored mae rhywun yn cael y cip cyntaf o gopa’r Wyddfa wrth iddi ymestyn ei brig uwch y grib i’r dde o’r trên. Yn fuan mae’r trên yn mynd heibio Cae Esgob a murddun Capel Hebron cyn dechrau dringo tua’r copa o ddifri yng nghanol cefn gwlad trawiadol. Yn y man mae un o banoramâu gwychaf y byd yn ymddangos ar gopa’r Wyddfa, sef Eryri – gwlad yr eryrod.

Profiad bythgofiadwy

Archebu Ar-lein