Canolfan Ymwelwyr Copa’r Wyddfa

Hafod Eryri

Hafod Eryri – Canolfan Ymwelwyr Copa’r Wyddfa

Canolfan ymwelwyr uchaf Prydain

Mae’r ddynoliaeth wastad wedi teimlo’r ysfa i brofi sut deimlad yw bod ar gopa’r byd. Ymgyrchoedd ar droed oedd y rhai cyntaf a gofnodwyd i gopa’r Wyddfa, ac yna bu i’n cyndeidiau brofi’r uchelderau ar gefn ceffyl neu ful. Mae ein rheilffordd unigryw, a adeiladwyd ar gyfer ymwelwyr anturus yn 1896, wedi caniatáu i bawb gael yr un profiad yn ddi-dor ers y cyfnod hwnnw.

Caffi a Siop Anrhegion

Mae’r caffi yn gwerthu amrywiaeth o ddiodydd oer a phoeth a byrbrydau. O ogis Cymreig cynnes i gacennau hufen ffres, mae gennym yr amrywiaeth perffaith o ddanteithion ar gyfer picnic ar ochr y mynydd. Angen cofrodd o’ch ymweliad â mynydd uchaf Cymru? Dim problem – porwch yn ein siop anrhegion am amrywiaeth o ddillad, nwyddau a’r melysion Cymreig mwyaf blasus. Mae’r Ganolfan Ymwelwyr yn lle bwyd masnachol a gofynnir yn garedig i gwsmeriaid fwyta bwyd sydd wedi ei brynu yng nghaffi’r copa yn unig. Am resymau hylendid bwyd, dim ond cŵn cymorth cofrestredig all gael mynediad i’r adeilad, mae cylchoedd tennyn ar gael ar y waliau. Cofiwch nad yw’r caffi yn darparu dŵr tap oherwydd argaeledd cyfyngedig. Mae’r dŵr naill ai’n cael ei gasglu o ddŵr glaw neu mae swm cyfyngedig yn cael ei gario i fyny yn y trenau.

Oriau Agor

Mae Hafod Eryri yn cael ei redeg gan Reilffordd yr Wyddfa ac mae ar agor bob dydd o ddiwedd y Gwanwyn hyd at ddiwedd Hydref. Mae’r ganolfan ymwelwyr ar agor o 10am a bydd yn cau 20 munud cyn i’r trên olaf adael y copa. Ar ddyddiau pan fo’r tywydd yn ddrwg a phan na ellir cyrraedd y copa ar drên, bydd Hafod Eryri wedi cau. Ewch i’n tudalennau Facebook a Twitter i gael y newyddion diweddaraf o’r copa.

Hanes

Nid ydym yn gwybod pryd y codwyd yr adeilad cyntaf ar y copa, ond erbyn 1820 roedd un yno yn sicr, ac erbyn 1847 roedd yna glwstwr o gytiau coed o gwmpas carn y copa.

Erbyn 1930 roedd y rhain wedi dirywio cymaint fel y penderfynwyd codi un adeilad amlbwrpas yn hytrach. Dyluniwyd hwnnw gan Syr Clough Williams-Ellis, sy’n fwy enwog fel y gŵr a greodd Portmeirion. Erbyn blynyddoedd cynnar y mileniwm newydd roedd effeithiau amser a thywydd ffyrnig yr Wyddfa wedi gadael eu hôl ar yr adeilad hwn hefyd, a phenderfynwyd ei ddymchwel ac ailadeiladu.

Dyluniwyd Hafod Eryri gan Ray Hole ac fe’i hariannwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri, Bwrdd Twristiaeth Cymru, Yr Undeb Ewropeaidd, Rheilffordd yr Wyddfa a Thanysgrifiadau Cyhoeddus. Fe gododd fel ffenics o lwch yr hen adeilad ac fe’i hagorwyd i’r cyhoedd ym mis Mehefin 2009. Heddiw caiff gwesteion y rheilffordd eu croesawu i adeilad cyfoes a modern wedi ei gladio â derw ac ithfaen Cymreig a cheir golygfeydd rhyfeddol drwy’r ffenestri panoramig o’r dyffrynnoedd islaw. Drwy gyfrwng sgriniau gwybodaeth mawr, llawr cerfiedig a “ffenestri sy’n sibrwd”, mae’r dylunwyr yn awyddus i’r ymwelwyr brofi gwir deimlad o le. Mae siopau a llefydd bwyta yn yr adeilad ac mae hefyd yn gwasanaethu’r gymuned o gerddwyr ar ôl iddynt ddringo i gopa’r genedl. Gydag amrywiaeth dda o gacennau a bwydydd sawrus poeth a gwahanol ddiodydd poeth ac oer, Hafod Eryri yw’r orsaf danwydd uchaf yng Nghymru a Lloegr!

Dewch gyda ni heddiw i weld pam yn union y disgrifiwyd Rheilffordd yr Wyddfa fel un o’r teithiau rheilffordd mwyaf unigryw a rhyfeddol yn y byd.

Agorodd Hafod Eryri ym mis Mehefin 2009. Ar gyfartaledd mae’n derbyn hanner miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn ac nid yw’n anodd gweld pam. Ar ddiwrnod clir gallwch weld Iwerddon, Lloegr, Yr Alban ac Ynys Manaw.

Profiad bythgofiadwy

Archebu Ar-lein