Amseroedd a Phrisiau
Mae’r trenau yn rhedeg yn ddibynnol ar y galw gan gwsmeriaid. Gellir prynu tocynnau trên yn y Swyddfa Docynnau yng Ngorsaf Llanberis neu ymlaen llaw ar-lein neu dros y ffôn. Mae’r llinell ffôn yn agor am 1.00pm bob dydd. Cofiwch na ellir archebu ymlaen llaw ar y rhyngrwyd na dros y ffôn ar y diwrnod rydych yn teithio.
Sylwer os gwelwch yn dda: Dim ond tocynnau ymlaen llaw mae modd eu prynu ar-lein neu dros y ffôn. Mae tâl gweinyddu o £3.50 am bob archeb ar-lein a thros y ffôn. Dim ond yn y swyddfa docynnau y gellir prynu tocynnau i deithio ar y dydd. Rydym yn argymell bod cwsmeriaid yn cyrraedd 30 munud cyn eu bod yn teithio er mwyn casglu tocynnau a archebwyd ymlaen llaw ac i fwynhau’r cynhyrchiad Theatr Ffilm am ddim. Ni chaniateir trosglwyddo’r tocynnau ac ni roddir ad-daliad, felly gwiriwch y rhagolygon tywydd cyn archebu.
Yn ystod gwyliau ysgol, neu ar ddyddiau o dywydd teg, gall y rheilffordd fod yn eithriadol o brysur ac argymhellir cadw lle ymlaen llaw. Ar ddyddiau prysur iawn efallai y bydd yr holl seddi ar yr holl drenau wedi eu gwerthu erbyn canol y bore. Os nad ydych wedi cadw tocynnau ymlaen llaw, gallwch osgoi taith ddi-angen a siom ar ôl cyrraedd drwy ffonio 01286 870 223 i wirio a oes tocynnau ar gael.
Phrisiau
Mai – Hydref | ||||
Gwasanaeth Disel Traddodiadol | Llanberis – i’r Copa ac yn ôl | Llanberis – Sengl i’r Copa | ||
Oedolyn – 16+ oed | £31.00 | £23.00 | ||
Plentyn – 3-15 oed | £21.00 | £18.00 | ||
Oedolyn Anabl | £28.00 | £20.00 | ||
Plentyn Anabl | £19.00 | £15.00 |
Mai – Hydref | ||
Y Trên Stêm | Llanberis – Pris i’r Copa ac yn ôl | Llanberis – Pris Sengl i’r Copa |
Oedolyn – 16+ oed | £40.00 | D/G |
Plentyn – 3-15 oed | £30.00 | D/G |
Oedolyn Anabl | £37.00 | D/G |
Plentyn Anabl | £27.00 | D/G |
Mai – Hydref | |||
Prisiau Cyntaf i’r Felin | Llanberis – Pris i’r Copa ac yn ôl | Llanberis – Pris Sengl i’r Copa | |
Oedolyn – 16+ oed | £25.00 | D/G | |
Plentyn – 3-15 oed | £16.00 | D/G | |
![]() |
Archebwch le ar y trên 9.00am a derbyn gostyngiad arbennig. Gwerthir tocynnau fel maen nhw ar gael ac mae’n rhaid eu harchebu ymlaen llaw. Bydd y trên Cyntaf i’r Felin yn wasanaeth diesel traddodiadol. |
Tymor
Yn ddibynnol ar y tywydd, bydd y trenau yn rhedeg bob dydd o’r 17eg o Fawrth hyd at ddiwedd Hydref. O fis Mawrth hyd at ddechrau Mai, bydd y trenau yn terfynu yng Ngorsaf y Clogwyn, lle nad oes cysgod (yn ddibynnol ar amodau tywydd y gaeaf). Gorsaf Hafod Eryri yw’r derfynfa arferol rhwng Mai a diwedd y tymor. Pan mai’r copa yw’r derfynfa ni chaniateir i deithwyr ddod ar y trên na’i gadael ar unrhyw bwynt pasio arall.
Casglu Tocynnau
Mae tocynnau sydd wedi’u cadw ymlaen llaw ar gael i’w casglu o’n Swyddfa Docynnau yn Llanberis 30 munud cyn gadael. Nid ydym yn postio tocynnau sydd wedi eu harchebu ymlaen llaw. Beth am gyrraedd ychydig yn gynharach a mwynhau ein profiad siopa Fictoraidd, treulio ychydig o amser yn ein Theatr Ffilm neu fwynhau tamaid bach o fwyd ym Mwffe’r Orsaf neu yng Ngrilfa’r Platfform cyn i chi gamu ar y trên?
Pob tocyn arall
Mae’r holl docynnau eraill yn cael eu gwerthu ar gyfer ein trenau yn ddyddiol o 08.30 yn ein swyddfa docynnau yn Llanberis ar sail y cyntaf i’r felin. Does dim modd archebu dros y ffôn neu ar y we ar y diwrnod rydych yn teithio. Yn ystod cyfnodau gwyliau brig, yn enwedig pan fo’r tywydd yn braf, efallai y bydd pob sedd ar bob trên wedi’u gwerthu. Argymhellir archebu ymlaen llaw.